Hafan > Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd


Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid Tom Parry a’i Gwmni

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi beth fyddwn yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol.

  • Manylion cyswllt
  • Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, ei defnyddio, a pham
  • Seiliau cyfreithlon a hawliau diogelu data
  • O ble rydyn ni’n cael gwybodaeth bersonol
  • Am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth
  • Gyda phwy rydym yn rhannu gwybodaeth
  • Sut i gwyno

Manylion Cyswllt

Post
Tom Parry a’i Gwmni, 80 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9NW, GB

Ffôn
01766 512505

E-bost
sales@tomparry.info

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, ei defnyddio, a pham

Rydym ni’n casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth ganlynol at ddibenion recriwtio:

  • Manylion cyswllt (e.e. enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost personol)
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Hanes cyflogaeth (e.e. ffurflen gais, geirdaon cyflogaeth neu gyflogaeth eilaidd
  • Hanes addysg (e.e. cymwysterau)

Rydym yn casglu neu'n defnyddio'r wybodaeth bersonol ganlynol ar gyfer delio ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau:

  • Enwau a manylion cyswllt
  • Cyfeiriad
  • Manylion talu
  • Cyfrifon a chofnodion cwsmeriaid neu gleientiaid
  • Gwybodaeth am drafodion ariannol
  • Gohebiaeth

Seiliau cyfreithiol a hawliau diogelu data

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio eich data

Dyma ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion recriwtio:

  • Caniatâd - mae gennym ganiatâd gennych ar ôl i ni roi'r holl wybodaeth berthnasol i chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, mae gennych yr hawl i dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Contract – mae'n rhaid i ni gasglu neu ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn i ni allu ymrwymo i gontract neu gyflawni contract gyda chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i wrthwynebu.

Dyma ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol i ddelio ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau:

  • Caniatâd - mae gennym ganiatâd gennych ar ôl i ni roi'r holl wybodaeth berthnasol i chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, mae gennych yr hawl i dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Contract – mae'n rhaid i ni gasglu neu ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn i ni allu ymrwymo i gontract neu gyflawni contract gyda chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i wrthwynebu.
  • Buddiannau dilys – rydym yn casglu neu'n defnyddio eich gwybodaeth gan ei fod o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi risg gormodol o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i gludadwyedd (portability). Dyma ein buddiannau dilys:
  •  Rydym yn asiantaeth eiddo ac mae angen gwybodaeth arnom i fwrw ymlaen â phrynu neu werthu eiddo.

I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o fuddiannau dilys fel sail gyfreithlon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir uchod.

O ble rydym ni'n cael gwybodaeth bersonol

  • Yn uniongyrchol gennych chi
  • Trydydd partïon:
  • Darparwyr Atal Gwyngalchu Arian

Am ba hyd rydym ni'n cadw gwybodaeth

Cedwir gwybodaeth nes bod y gwerthiant wedi'i gwblhau ac am hyd at 12 mlynedd ar ein ffeiliau i gydymffurfio â'n gofynion indemniad proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am ba mor hir rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol neu'r meini prawf a ddefnyddiwn i benderfynu hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir uchod.

Gyda phwy rydym yn rhannu gwybodaeth

Proseswyr Data

Negodwyr Gwerthu, Cyfrifwyr

Mae'r prosesydd data hwn yn ymgymryd â’r gweithgareddau canlynol ar ein rhan: Cynnal gwiriadau Atal Gwyngalchu Arian; delio â chyflogres

Eraill yr ydym yn rhannu gwybodaeth bersonol â nhw

  • Cynghorwyr proffesiynol neu gyfreithiol
  • Awdurdodau ymchwilio ariannol neu dwyll
  • Ymgynghorwyr proffesiynol

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, gallwch gyflwyno cwyn i ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Os ydych yn parhau yn anfodlon â’r ffordd yr ydym wedi defnyddio'ch data ar ôl cyflwyno eich cwyn gyda ni, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:          

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan: https://www.ico.org.uk/make-a-complaint

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Tachwedd 2025