Hafan > Amdanom Ni > Ein Pobl
Ein Pobl
Arwel Williams FRICS
Mae Arwel Williams yn Syrfëwr Siartredig gyda dros 40 mlynedd o brofiad wrth gynnal arolygon proffesiynol a phrisio eiddo preswyl a masnachol yn Sir Gwynedd ac ar draws Gogledd Cymru. Ef yw prif bartner Tom Parry a’i Gwmni [& Co.]
Mae Arwel yn Gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a Phriswr Cofrestredig.
Phil Williams MRICS
Mae Phil Williams yn Syrfëwr Siartredig gyda thros 20 mlynedd o brofiad, gan dreulio y rhan fwyaf o’r amser yn Llundain yn gweithio i gynghorydd eiddo blaenllaw masnachol. Mae Phil wedi bod yn bartner o Tom Parry a’i Gwmni [& Co.] ers 2015 ac mae ganddo brofiad helaeth mewn arolygon a phrisiadau eiddo preswyl; rheoli prosiectau; adfeiliadau a chyngor ymgynghorol adeiladu arall.
Mae Phil yn Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn Phriswr Cofrestredig RICS.
Nicola Williams FRICS
Mae Nicola Williams yn Syrfewr Siartredig gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, ar ôl gweithio i gynghorydd eiddo masnachol blaenllaw yn y Gogledd Orllewin ac yn Llundain. Mae Nicola wedi arbenigo mewn Arolygon Adeiladu ers nifer o flynyddoedd. Ymunodd â Tom Parry & Co yn 2018 i ehangu ein tîm o Syrfewyr Siartredig sy'n cynnig cyngor proffesiynol o’n swyddfa ym Mhorthmadog, ac wedi bod yn Bartner ers 2020.
Mae Nicola yn Gymrawd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Llinos Price
Mae Llinos wedi bod gyda'r cwmni ers 2019 a hi sy’n rheoli ein swyddfa ym Mhorthmadog o ddydd i ddydd. Mae’n gweithio’n arbennig o galed, ac yn cynnig gwasanaeth hynod broffesiynol a phersonol i gleientiaid a phrynwyr fel ei gilydd. Mae ganddi wybodaeth ardderchog am yr ardal leol ac mae'n cynnig cyngor a chefnogaeth gadarn i'n holl gleientiaid.
Kara Williams
Kara sy’n rheoli ein swyddfa ym Mlaenau Ffestiniog. Ymunodd Kara â’r cwmni yn 2023, gan weithio’n arbennig o galed i ddarparu gwasanaeth proffesiynol a phersonol iawn bob amser, yn seiliedig ar onestrwydd a chywirdeb. Mae hi'n cynnig gwasanaeth cwsmeriaid heb ei ail ac mae ganddi berthynas wych â chleientiaid a phrynwyr.
Julie Hughes
Julie Hughes yw Rheolwr Cangen Harlech. Ymunodd Julie â Tom Parry a’i Gwmni (& Co) yn 2015 ac mae wedi llwyddo i ehangu ein portffolio o eiddo yn ardal Harlech ers iddi ymuno. Mae gwybodaeth Julie o'r farchnad leol ac eiddo lleol yn golygu ei bod yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar werthoedd eiddo a gwerthiannau o Harlech i Abermaw.
Irwyn Jones
Mae Irwyn yn rheoli swyddfa'r Bala. Mae ganddo gyfoeth o brofiad yn y farchnad eiddo a chysylltiadau lleol cryf yn yr ardal. Mae Irwyn wedi bod yn prisio a chynghori cleientiaid ar faterion eiddo ers dros 40 mlynedd. Ynghyd a'i dîm ymroddedig mae yn sicrhau bod cleientiaid a darpar brynwyr yn cael eu trin mewn ffordd broffesiynol trwy ddarparu gwasanaeth cyfeillgar dwyieithog.