Home > Buy > Gwaen Ganol, Criccieth
Key Features
- Eiddo tair llofft, 2 ystafell ymolchi.
- Garej ynghlwm a pharcio preifat oddi ar y ffordd.
- Gerddi i'r blaen a'r cefn
- Golygfeydd hardd o'r castell ar y môr
- O fewn pellter cerdded i'r stryd fawr, chyfleusterau lleol & lan y môr.
Property Description
Mae'n bleser gan Tom Parry & Co gynnig yr eiddo hwn ar werth wedi ei leoli yn ardal dawel Gwaun Ganol, Cricieth. Mae'r ty yn cynnig trefniant byw unigryw, wyneb i waered sy'n gwneud y gorau o'r golygfeydd hyfryd o'r castell cyfagos a'r môr. Gyda thair ystafell wely gymesur a dwy ystafell ymolchi, mae'r eiddo hwn yn berffaith ar gyfer teuluoedd neu'r rhai sy'n ceisio encil heddychlon.
Mae gan yr eiddo ddigon o le parcio oddi ar y ffordd ar gyfer hyd at ddau gerbyd, heb sôn am y garej sydd hefyd yn gallu cynnig lle parcio neu storfa. Mae gardd daclus o flaen y ty yn ogystal â gardd gefn sy'n cynnig noddfa breifat i fwynhau'r gofod awyr agored. Gall y gerddi fod mor gynhaliol ag y dymunwch neu'n gyfle perffaith i'r rhai sydd â bysedd gwyrdd.
Mae’r eiddo yn darparu cyfle i fyw’n gyfforddus mewn ardal dawel, gydag amgylchedd hardd Cricieth yn gwella'r apêl gyffredinol. Os ydych yn chwilio am gartref ar gyfer teulu neu os ydy ty byw wyneb i waered yn apelio atoch yna peidiwch â cholli'r cyfle i wneud y ty hwylus hwn yn gartref newydd i chi.
C402
LLAWR GWAELOD
Porch
gwydr a lloriau carped
Cyntedd
gyda llawr carped; rheiddiadur; storfa o dan y grisiau.
Ystafell Wely 2
gyda llawr carped; rheiddiadur; ffenestr fawr i'r tu blaen.
3.176 x 3.530
10'5" x 11'6"
Ystafell Wely 3
gyda llawr teils 'thermoplastig'; rheiddiadur; ffenestr yn edrych dros yr ardd gefn.
2.143 x 3.701
7'0" x 12'1"
Ystafell Ymolchi
gyda llawr carped; waliau wedi eu teilsio; rheiddiadur; swît lliw yn cynnwys bath gyda chawod drosto; basn ymolchi dwylo a thoiled.
Ystafell Ambell Bwrpas
gyda llawr carped; rheiddiadur; gyda lle a phlymio ar gyfer peiriant golchi; sinc a draeniwr dur di-staen; drws i'r ardd gefn.
LLAWR CYNTAF
Landin/Cyntedd llawr cyntaf
mynediad i'r llofft ar y landin.
Ystafell Fyw
gyda llawr carped; dau reiddiadur; ffenestri dwy agwedd yn mwynhau golygfeydd o'r môr a'r castell i'r tu blaen; tân trydan wedi'i osod o fewn lle tân teils.
5.77 x 6.882
18'11" x 22'6"
Cegin
gydag amryw o gypyrddau i'r waliau uwchben & llawr gyda digon o arwynebedd gwaith; lle ar gyfer popty; sinc a draeniwr; bar brecwast lefel isel; lle a phlymio ar gyfer peiriant golchi llestri a ffenestr yn edrych dros yr ardd.
2.899 x 3.988
9'6" x 13'1"
Ystafell Wely 1
gyda llawr carped; rheiddiadur; ffenestr fawr i'r tu blaen yn mwynhau golygfeydd o'r Castell; cwpwrdd storio; storfa dros wely wedi'i adeiladu.
Ystafell Ymolchi
gyda llawr carped; rheiddiadur; toiled lefel isel a basn ymolchi pedestal.
YN ALLANOL
Ceir mynediad i'r eiddo dros balmant brics sydd yn mynd yr holl ffordd i du blaen y garej. i un ochr mae ffin o lwyni a phlanhigion aeddfed, ac i'r ochr arall mae ardal o laswellt gwastad.
Yn y cefn mae gardd o faint da gyda gwair wedi'i osod, mae amryw o blanhigion aeddfed, coed a llwyni yno a thy gwydr. Mae llwybr o slabiau palmantog concrit yn rhoi mynediad rhwydd i bob man.
GWASANAETHAU
Prif gyflenwad dwr, trydan a draeniad. Gwres canolog olew.
GWYBODAETH BERTHNASOL
Daliadaeth: Rhydd-ddaliad – prif breswylfa
Treth y Cyngor: Band E
















